Eich Cyngor

Mae cymuned Pontardawe, sy'n cynnwys wardiau etholiadol Pontardawe, Rhyd y Fro a Threbannws, yn cael ei gwasanaethu gan Gyngor Tref etholedig sy'n cynnwys 16 o Aelodau, ac mae'n ffurfio rhan o fwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r Cyngor yn cyfarfod unwaith y mis, ar yr ail ddydd Llun am 6.45pm, ac eithrio ym mis Awst pan nad oes cyfarfod, ac mae'n gyfrifol am nifer o Neuaddau Cymunedol, Parciau, Llwybrau Troed a rhan o Warchodfa Natur Cwmdu. Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Grwpiau Cymunedol, sefydliadau trydydd sector a'r Awdurdod Unedol i ddarparu gwyliau a manteision eraill ar gyfer y Gymuned.

Teimlwyd ers meitin fod diffyg mewnbwn gan bobl ifanc o’r wardiau lleol i’w Cynghorau Tref a Chymuned. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio unioni’r sefyllfa trwy ganiatáu i Gynghorau Tref a Chymuned benodi hyd at ddau ‘Gynrychiolydd Ieuenctid Cymunedol’ a fyddai’n gallu mynd i gyfarfodydd, ac er na fyddent yn cael pleidleisio byddent yn gallu rhoi ‘Barn Pobl Ifanc’ ar y materion sy’n effeithio ar eu hardal leol. 

 

Mae Cyngor Tref Pontardawe yn llwyr gefnogi’r fenter hon ac ar hyn o bryd mae’n penodi dau Gynrychiolydd Ieuenctid i’r Cyngor bob blwyddyn.

Byddai gofyn i unrhyw un sy’n ystyried ymgeisio fod dros 15 mlwydd oed ond yn iau na 26 mlwydd oed, adeg eu penodi, a rhaid eu bod yn byw o fewn tair milltir i Ffin Cyngor Tref Pontardawe.

Mae cyfnod Cynrychiolwyr Ieuenctid yn dechrau ar 1 Medi ac yn gorffen ar 31 Awst bob blwyddyn